harlech quin - classes, courses & special events

digwyddiadau ysgol

 

Image

Llyfr Bach y Plant

Iau 11 Medi 10.30am & 1.30pm

Beth fydd y storiwyr Deian a Mali yn ei ddarganfod yn y goedwig gerdd? Offeryn, neu lais neu ambell i gân. Mae'r goedwig yn llecyn llawn swyn i bawb sy'n mentro iddi. Os da chi'n gwrando'n astud fe glywch y gwynt trwy ddail y dderwen, wiwerod yn chwyrnu a llwynog slei yn gwibio heibio ond i chi wrando'n astud.

Sioe fechan ryngweithiol gyda band byw i blant bach 3 - 7 oed fydd yn gyflwyniad i rai o ganeuon sioe gerdd newydd sbon Llyfr Mawr y Plant

£6/ Plant £4

Athrawon yn gwarchod yn rhad ac am ddim

 

Wythnos Cenedlaethol Ffilm Ysgolion

Cyfle i weld ffilmiau am ddim ar gyfer disgyblion Ysgolion Gwynedd

I archebu ffoniwch 0207 439 4880

Am ragor o wybodaeth www.nsfw.org

Image

The Fox and The Child (U)

Mawrth 21 Hydref 10am

Golwg tylwyth teg ar gyfeillgarwch merch ifanc a llwynog.

Image

Earth (U)

Mercher 22 Hydref 10am

Fersiwn o'r gyfres deledu Planet Earth, yn dilyn llwybrau mudo pedwar teulu o anifeiliaid.

Image

Persepolis (12A)

Iau 23 Hydref 10am

Stori am ferch ifanc wrthryfelgar o Iran yn ei harddegau.

 

Image

Martyn Mam a'r Wyau Aur

Cwmni Martyn Geraint/Cynhyrchiad ar y cyd â Theatrau Rhondda Cynon Taf

Gwener 5 Rhagfyr 10am, 1pm a 6pm

Pantomeim newydd sbon Martyn Geraint yn seiliedig ar stori dylwyth teg yr Hen Fam Wydd.

Ac yntau wedi cael magwraeth ddigon gwylaidd gyda'i fam, a than gysgod y sgweier cas, mae cyfarfod ar hap gydag un o dylwyth teg mwyaf di-glem Cymru.

Dyma bantomeim llawn hwyl, cerddoriaeth, lliw, anifeiliaid fferm a hud y theatr gan gynnwys pypedau unigryw iawn!

£8/Plant £6

Athrawon yn gwarchod yn rhad ac am ddim

 

gwybodaeth archebu | cysylltwch รข ni | english