cymdeithas ffilmiau - ffilmiau

 

Fe fydd cyflwyniad byr yn cael ei roi gan aelod o'r gymdeithas ffilm cyn bob ffilm.

 

'California Dreamin' ('Endless')

Dydd Iau 18 Medi 2008 7.30pm

Cyfarwyddydd: Christian Nemescu

(Romania/2006/subtitles/cert15/154mins)

Wedi'i leoli yn ystod y brwydro yn Kosovo yn haf 1999, mae tr'n NATO yn cludo arfau milwrol trwy Romania. Cawn weld ochr lwgr pobl yn ystod rhyfel.

Winner, Prix Un Certain Regard at Cannes Film Festival 2007

Winner, Best Film, Audience Award and Canvas Award at Brussels European Film Festival 2007

 

'The Band's Visit'

Dydd Iau 16 Hydref 2008 7.30pm

Cyfarwyddydd: Eran Kolirin

(Israel,France/2007/subtitles/cert12A/86mins)

Mae band bras sy'n cynnwys aelodau o'r heddlu yn yr Aifft yn mynd i Israel i chwarae mewn seremoni agoriadol canolfan celfyddydol Arabaidd. Maent yn sownd mewn tref Israelaidd, a chawn weld wrthdaro diwylliannol anochel yn y comedi sych hwn.

"A short but perfectly pitched gem" San Francisco Chronicle

 

'Tell No-One'

Dydd Iau 20 Tachwedd 2008 7.30pm

Director Guillaume Canet

(France/2006/subtitles/cert15/125mins)

Addasiad o nofel boblogaidd Harlan Coben - roedd y ffilm yn lwyddiant ysgubol yn Ffiainc. Mae François Cluzet sy'n chwarae gwr gweddw yn dod o dan amheuaeth pan mae achos llofruddiaeth ei wraig yn cael ei ail-agor.

"An intricate, intelligent and very watchable thriller" The Guardian

 

'Silent Light'

Dydd Iau 15 Ionawr 2009 7.30pm

Diretor/Cyfarwyddydd: Carlos Reygadas

(Mexico/2007/subtitles/cert15/127mins)

Mae Carlos Reygadas yn sefydlu mewn cyfres o tableaux fan cychwyn i hanes cariad gwaharddedig mewn cymuned leiafrifol sy'n siarad tafodiaith Iseldireg ym Mecsico.

Winner, Jury's Grand Prize at Cannes Film Festival 2007

 

'The Edge of Heaven'

Dydd Iau 26 Chwefror 2009 7.30pm

Cyfarwyddydd: Faith Akin

(Germany,Turkey/2007/subtitles/cert15/120mins)

Drama Twrciaidd-Almaenig sy'n dilyn hanes cymeriadau rhyng-gysylltiedig yn ôl ac ymlaen rhwng dwy wlad, a thrwy drychinebau a datguddiadau mae'n cynnig gwirebau am gartref, hunaniaeth a theulu.

Winner, Best Screenplay at Cannes Film Festival 2007

 

'Alexandra'

Dydd Iau 19 Mawrth 2009 7.30pm

Cyfarwyddydd: Alexandr Sokurov

(Russia/2007/subtitles/ 95mins)

Mae Sokurov yn cydbwyso agweddau emosiynol a deallusol yn gelfydd yn y stori hon am hen fenyw sy'n ymweld ag allorsaf milwrol lle mae'i wyr wedi'i leoli. Er ei bod hi wedi gwanhau yn ei hoedran mae hi'n parhau i fod yn gryf a dewr, mae hi'n fam fel pob mam yn syllu ar greithiau rhyfeloedd diddiwedd, ar wastraff bywyd, a ddim yn deall pam.

 

'Still Life'

Dydd Iau 23 Ebrill 2009 7.30pm

Cyfarwyddydd:Jia Zhangke

(China/2006/subtitles/certPG/107mins)

Mae'r ffilm yn dilyn stori dau berson yn cyrraedd dinas Fengjie, yn chwilio am rywbeth i'w hatgoffa o'u gorffennol emosiynol a materol cyn i'r annedd gael ei foddi gan argae, a diflannu o dan y dwr am byth.

A stark and stunning end-of-the-world saga about a tiny city being demolished to make way for the Three Gorges hydro-electric dam project. The film chronicles two people arriving in the city of Fengjie, both desperate to recover something of their emotional and physical past before it disappears into the water. A poignant record of a hidden sorrow in modern China - a meditation on mortality.

"Wonderful...mysterious, poignant" Sight and Sound

Winner, Golden Lion at Venice Film Festival 2006

 

'Days and Nights in the Forest'

Dydd Iau 21Mai 2009 7.30pm

Cyfarwyddydd: Satyajit Ray

(India/1970/subtitles/certPG/120mins)

Comedi ysgafn am bedwar o ddynion trefol yn mynd i'r wlad am benwythnos er mwyn dianc o'r ddinas, lle maent yn cyfarfod â grwp sy'n byw yn y fforest.

Winner, Best Picture at Berlin Film Festival 1970

 

'Ten Canoes'

Dydd Iau 18 Mehefin 2009 7.30pm

Cyfarwyddydd: Rolf de Heer

(Australia/2006/subtitles/cert15/92mins)

Portread o'r Yolngu (cynfrodorion Awstralia sy'n byw yn Arnhem yn y Northern Territory) fel yr oeddynt yn byw yn eu dull traddodiadol fil o flynyddoedd yn ôl, heb ddylanwad Eingl-Sacsonaidd na'r Gorllewin. Dyma'r ffilm gyntaf i gael ei wneud mewn iaith frodorol Awstraliaidd.

"Wise, warm, witty fare" Time Out

Winner, Australian Academy Awards 2006

Gyda diolchiadau i Browsers Bookshop

Peidiwch ag anghofio eich cerdyn ffyddlondeb ffilm... dewch i wylio 5 ffilm ac fe gewch weld y chweched am ddim!

 

gwybodaeth archebu | cysylltwch â ni | english